Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023

Dyddiad: Dydd Mercher 18 Hydref 2023

Amser: 17.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn dathlu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ledled Cymru gan fentrau cymdeithasol. Mae’r categorïau yn cynnwys menter gymdeithasol y flwyddyn; y fenter gymdeithasol i gadw llygad arni; y fenter gymdeithasol sy’n meithrin amrywiaeth, cynhwysiant, cydraddoldeb a chyfiawnder; hyrwyddwr menywod mewn mentrau cymdeithasol; y fenter gymdeithasol sydd wedi’i gwreiddio yn y gymuned; ac arloesiad y flwyddyn ym maes mentrau cymdeithasol. Caiff enillwyr y gwobrau eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau mentrau cymdeithasol y DU, gan roi cyfle iddynt ddangos eu llwyddiannau ochr yn ochr â mentrau cymdeithasol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr