Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Prosiect Mentora Ymestyn yn Ehangach

Dyddiad: Dydd Iau 12 Hydref 2023

Amser: 09.30 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Menter i ehangu mynediad at addysg uwch ar gyfer grwpiau blaenoriaeth drwy ymdrin â rhwystrau rhag mynediad, cynnydd a llwyddiant yw’r rhaglen Ymestyn yn Ehangach, sydd wedi’i hariannu gan Gyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru. Ym mis Tachwedd, rhoddodd y Cyngor gyllid grant i Ymestyn yn Ehangach: Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru ym Mhrifysgol Bangor i weithio ar y cyd â phartneriaid Ymestyn yn Ehangach ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i gyflwyno pecyn o gymorth mentora ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022-23 a fydd yn gweld israddedigion mewn addysg uwch yn mentora dysgwyr rhwng 16 a 19 oed. Nododd y llythyr cylch gwaith at y Cyngor fod y grŵp rhanddeiliaid Adnewyddu a Diwygio wedi cyfeirio at yr angen i lunio rhaglen fentora ar gyfer dysgwyr chweched dosbarth a cholegau, y disgwylir iddi gael ei chyflwyno gan fyfyrwyr sydd eisoes yn y brifysgol, i helpu i ehangu gorwelion a chynyddu hyder a sgiliau, a hynny gan gyfoethogi dyheadau’r mentor a'r mentorai. Diben y prosiect mentora yw cyfrannu at y broses adfer yn sgil y bylchau mewn addysg a wynebwyd gan grwpiau blaenoriaeth oherwydd y pandemig. Nod y rhaglen yw cefnogi dysgwyr i gael mynediad at addysg bellach ac addysg uwch.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

  • MSS Sian Gwenllian

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr