Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Gwirfoddolwyr Hosbis y Ddinas

Dyddiad: Dydd Iau 5 Hydref 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bydd y digwyddiad hwn yn dod â holl wirfoddolwyr Hosbis y Ddinas at ei gilydd i’n galluogi i ddangos faint rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith arbennig y maent yn ei wneud. Fel elusen, rydym yn hynod ddibynnol ar ein gwirfoddolwyr - yn ddigon syml, ni allem wneud yr hyn rydym yn ei wneud hebddynt. Hoffem fachu ar y cyfle i gyflwyno gwaith Hosbis y Ddinas fel elusen sy’n cydweithio’n hynod lwyddiannus â’n gwirfoddolwyr. Rydym hefyd yn awyddus i ddangos rhychwant y gwasanaethau y maent yn ein helpu i ddarparu, gan bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â gwirfoddolwyr a’r gefnogaeth y maent yn ei rhoi. Bydd y digwyddiad yn ein caniatáu i ddangos pwysigrwydd gwirfoddoli yn y gymuned a manteision gwirfoddoli i’r elusen dan sylw ac i’r unigolyn sy’n ein cefnogi drwy wirfoddoli.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr