Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Dathliad Diwrnod Anifeiliaid y Byd
Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Hydref 2023
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Mae Diwrnod Anifeiliaid y Byd yn dod â mudiadau lles anifeiliaid at ei gilydd, gyda’r nod o ysbrydoli ymgyrch fyd-eang i wneud y byd yn lle gwell i bob anifail. Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu gwaith caled sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru a’u hymdrechion i greu byd lle mae anifeiliaid bob amser yn cael eu cydnabod fel bodau ymdeimladol a bod sylw dyledus yn cael ei roi i’w lles.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr