Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod Hydrogen

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Hydref 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae'r 8fed o Hydref yn nodi Diwrnod Cenedlaethol Hydrogen. I ddathlu, byddwn yn cynnal digwyddiad yn y Senedd amser cinio ar y 10fed o Hydref a fydd yn tynnu sylw at fanteision a chyfleoedd hydrogen fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy hirdymor. Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn ogystal â’r cyfle i Aelodau’r Senedd weld drostynt eu hunain y datblygiadau diweddar ym myd hydrogen gyda cheir wedi’u pweru gan hydrogen yn ymweld ag ystâd y Senedd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr