Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Addysgu Dinasyddiaeth: Heriau a Chyfleoedd

Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Medi 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bydd y digwyddiad yn trafod sut yr addysgir addysg ddinasyddiaeth yn sgil y Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynwyd o 2022 ymlaen. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chyflwyniad o ganlyniadau ymchwil prosiect ymchwil gan academyddion yn y Brifysgol Agored sydd wedi bod yn archwilio barn a phrofiadau dysgwyr, athrawon a phrifathrawon mewn ysgolion yng Nghymru am addysg ddinasyddiaeth. Dilynir hynny gan sesiwn holi ac ateb, a sylwadau gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Bydd yn gyfle i fyfyrio ar yr heriau a wynebir wrth gyflwyno addysg ddinasyddiaeth, a’r cyfleoedd sy’n perthyn iddi, mewn ysgolion uwchradd, yng nghyd-destun y trawsffurfiadau byd-eang sydd yn tarfu ar sylfeini democratiaethau cyfoes.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr