Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Gwobrau Ysgolion Her Hinsawdd Cymru
Dyddiad: Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Mae ysgolion cynradd Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cymryd rhan yn Her Hinsawdd Cymru, sef menter a lansiwyd gan Eluned Morgan gyda’r nod o ddysgu plant ysgolion cynradd am y materion sy’n wynebu ein hamgylchedd. Gyda chymorth sefydliadau partner megis Cadwch Gymru’n Daclus, RSPB, Syrffwyr yn Erbyn Carthion, Tir Coed, Castell Howell, a’r Ymddiriedolaeth Garbon, mae disgyblion wedi ymgymryd â chyfres o weithgareddau a thasgau ymchwil fel ffordd o ehangu eu dealltwriaeth o’r materion o ran yr hinsawdd. Bydd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a Derek Walker, y Comisiynydd Cenhedloedd y Dyfodol, yn rhoi gwobrau arbennig ar gyfer cyflwyniadau rhagorol o’r prosiect.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr