Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Seminar Llechi, Glo a Chefn Gwlad

Dyddiad: Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Rhwng mis Ionawr 2022 a mis Rhagfyr 2022, gwnaeth naw partner yn y sector cymunedol — tri o ddyffrynnoedd llechi’r Gogledd (Partneriaeth Ogwen, Cwmni Bro Ffestiniog a Siop Griffiths); tri o cymoedd glo’r De (Partneriaeth Adfywio Ynys-y-bŵl, DOVE ym Manwen, a Phobl a Gwaith yn y Rhondda) a thri o berfeddwlad amaethyddol Cymru (Gofalwyr Credu, Tir Coed a Thir Dewi) — weithio gyda’i gilydd ar brosiect o’r enw Llechi, Glo a Chefn Gwlad. Roedd ffocws y prosiect ar wella sgiliau pobl leol i weithio yn eu cymunedau ac ar feithrin partneriaeth ledled Cymru sy’n seiliedig ar y rôl y gall cymunedau ei chwarae yn yr economi sylfaenol a’r economi leol iawn. Dysgwyd llawer, ac atodir adroddiad sy’n amlygu rhai o’r prif bwyntiau. Hefyd, fe wnaeth yr arfarnwr – y Ganolfan Cynllunio Iaith – ffilm ynghylch gwerth gwaith partneriaeth https://youtu.be/KiGUhyLlCyA. Cafodd y gwaith ei ariannu gan Sefydliad Rank a Chronfa Gymunedol Cefnogi Syniadau Gwych y Loteri Genedlaethol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr