Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru: Dathlu 30 mlynedd.

Dyddiad: Dydd Iau 29 Mehefin 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yw’r consortiwm llyfrgelloedd adnabyddus ledled y byd sy’n cynnwys llyfrgelloedd pob prifysgol yng Nghymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Drwy Lyfrgell Prifysgol Caerdydd, mae Llyfrgelloedd y GIG yng Nghymru yn cymryd rhan hefyd. Bydd y consortiwm yn dathlu ei 30 mlwyddiant yn 2023 a hoffem gymryd y cyfle hwn i nodi’r llwyddiannau yn ystod y blynyddoedd, yn ogystal â bachu ar y cyfle i rannu’r holl straeon cadarnhaol o lyfrgelloedd academaidd ac ymchwil ledled Cymru a’r rôl allweddol y maent yn ei chwarae ym mywyd addysgiadol, bywyd diwylliannol a threftadaeth y genedl. Mae’r fforwm yn enwog am ei ddull gweithredu arloesol wrth rannu gwasanaethau; er enghraifft, aethom ati ar y cyd i gaffael System Reoli Llyfrgell sawl blynedd yn ôl ac rydym ar fin dechrau ail brosiect caffael ar gyfer llyfrgelloedd academaidd ac ymchwil yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr