Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansio Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2023
Dyddiad: Dydd Mercher 28 Mehefin 2023
Amser: 10.00 - 15.00
Lleoliad: Yr Oriel a'r Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Am y tro cyntaf yn hanes Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, rydym am ddod â’r cyfarfod cyffredinol blynyddol i galon y brifddinas drwy ei gynnal yn y Senedd. Byddai hyn yn arbennig o arwyddocaol i ni oherwydd ein ffocws ar Forgannwg yn 2023. Yn ogystal â’r cyfarfod cyffredinol blynyddol, rydym yn bwriadu cynnal derbyniad byr i lansio Sioe Frenhinol 2023, gan rannu’r cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer un o ddigwyddiadau mwyaf eiconig Cymru.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr