Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Dathlu 75 mlynedd ers i Genhedlaeth Windrush gyrraedd y DU a dod i Gymru
Dyddiad: Dydd Iau 22 Mehefin 2023
Amser: 10.30 - 15.00
Lleoliad: Yr Oriel a'r Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: 22 Mehefin 2023 yw Diwrnod Cenedlaethol Windrush, sy’n rhoi cyfle inni ddiolch i aelodau o Genhedlaeth Windrush am eu cyfraniadau helaeth i ddatblygiad economi Cymru. Bydd y dyddiad hwn yn nodi 75 mlynedd ers i Genhedlaeth Windrush gyrraedd y DU. Rydym yn gobeithio dechrau’r digwyddiad am 10:30 drwy orymdaith a chodi baneri Windrush a’r Gymanwlad, yn ogystal â baneri’r 54 o genhedloedd sy’n aelodau o’r Gymanwlad. Byddwn hefyd yn croesawu siaradwyr, perfformwyr ac ati.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr