Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Gwyddoniaeth a’r Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023

Amser: 12.00 - 19.00

Lleoliad: Y Neuadd a'r Oriel, Y Senedd & Y Pierhead

Disgrifiad: Mae digwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a'r Senedd bellach ar ei 19fed flwyddyn. Caiff ei drefnu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar ran, ac ar y cyd â chymuned wyddoniaeth a pheirianneg Cymru, ac felly mae'n ddigwyddiad sefydlog yng nghalendr Senedd Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr