Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru: Cyfle i arddangos yr hyn a gyflawnwyd

Dyddiad: Dydd Iau 8 Mehefin 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o gynlluniau peilot arloesol ym maes caffael cyhoeddus mewn cysylltiad â bwyd a chadwyni cyflenwi byr dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth i'r cyllid hwn ddirwyn i ben, mae tri phrosiect wedi mynegi awydd ar y cyd i arddangos eu cyflawniadau, eu cyfleoedd a’u datrysiadau a all helpu i lunio deddfwriaeth a chyfeiriad polisi newydd ym maes caffael, amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd cymunedol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr