Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Prosiect Perthyn

Dyddiad: Dydd Llun 20 Mawrth 2023

Amser: 12.00 - 15.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Digwyddiad PERTHYN i ddod â siaradwyr Cymraeg 16-18 oed o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at ei gilydd. Dyma gyfle i wrando ar bobl ifanc ysbrydoledig, trafod Perthyn a chofrestru ar gyfer rhaglen fentora. Ymhlith y siaradwyr mae Jason Mohammed, Sage Todz, Iolo Cheung, Emily Pemberton a Nooh Omar.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr