Digwyddiad

DIGWYDDIAD: CommuniTeas

Dyddiad: Dydd Iau 16 Mawrth 2023

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Yn dilyn llwyddiant ein hymgyrch ‘Communities for Refugees’ yn 2021, mae Reset yn lansio ymgyrch newydd o’r enw ‘CommuniTeas’. Nod yr ymgyrch newydd hon yw sicrhau cynnydd yn nifer y bobl sy’n noddi ffoaduriaid yn y DU, a hynny drwy ddod â phobl ynghyd dros gwpanaid o de. Ar hyn o bryd, mae Reset yn cefnogi tri chynllun sy’n croesawu ffoaduriaid: Community Sponsorship, Homes for Ukraine, a Neighbours for Newcomers. Nod yr ymgyrch newydd hon yw annog pob math o groeso dan arweiniad y gymuned, ond yn bennaf i gynyddu nifer y grwpiau sy’n noddi yn y gymuned. Byddwn yn lansio’r ymgyrch ym mis Rhagfyr, gyda storïau pobl o bob cefndir i egluro beth mae rhannu paned yn ei olygu iddyn nhw. O fis Ionawr ymlaen, byddwn yn lansio’r te-partis ac yn annog pobl i gytuno i ddod yn gynrychiolwyr. Wedi cofnodi, bydd cynrychiolwyr yn cael pecyn, a byddwn yn cysylltu â nhw i’w helpu i gynllunio eu te-partis lleol. Bydd y te-partis lleol yn dod i ben 10 diwrnod cyn y te-partis rhanbarthol. Byddwn yn gofyn i gynrychiolwyr pob te-parti lleol greu cofnod o’u te-partis nhw ar ffurf ffotograffau a fydd yn cael eu rhannu yn y digwyddiadau rhanbarthol. O 1 Mawrth, byddwn yn lansio ein te-partis rhanbarthol, a fydd yn rhedeg tan 20 Mawrth, mewn pedair dinas o bwys: Llundain, Manceinion, Caeredin, a Chaerdydd. O fis Ebrill, byddwn yn sicrhau bod pethau’n digwydd yn sgil y te-partis lleol. Byddwn yn annog cyfranogwyr i ffurfio grwpiau noddi cymunedol a thrwy hynny ehangu’r croeso dan arweiniad cymunedau ar gyfer ffoaduriaid ledled y DU.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr