Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Cyfrifiad y Gweithlu Meddygaeth Frys

Dyddiad: Dydd Iau 19 Ionawr 2023

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn cynnal digwyddiad yn y Senedd i lansio ein hadroddiad cyntaf ar gyfrifiad y gweithlu meddygaeth frys yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn ymchwilio’n fanwl i anghenion y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i Aelodau o’r Senedd siarad â chlinigwyr, sydd yn y sefyllfa orau i ddisgrifio cyflwr presennol meddygaeth frys ac effaith yr argyfwng yn y gweithlu ar gleifion.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr