Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansiad Adroddiad Effaith 2021/22 Samariaid Cymru
Dyddiad: Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Pierhead
Disgrifiad: Mae’r Samariaid yn bodoli i leihau nifer y bobl sy’n marw yn sgil hunanladdiad. Yng Nghymru, rydym yn gweithio’n lleol ac yn genedlaethol i gyflawni hyn drwy ein gwasanaeth cefnogaeth emosiynol a thrwy estyn allan at grwpiau risg uchel yn ein cymunedau. Rydym hefyd yn gweithio i gyflawni hyn drwy waith polisi, cyfathrebu a phrosiect. Bydd y digwyddiad hwn yn lansio adroddiad effaith ac yn edrych yn ôl ar gyflawniadau allweddol y Samariaid yng Nghymru yn 2021/22.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
- MSS Jayne Bryant
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr