Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad lansio Menywod ym maes Trafnidiaeth yn swyddogol

Dyddiad: Dydd Iau 17 Tachwedd 2022

Amser: 09.30 - 11.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae 47 y cant o weithlu’r DU yn fenywod, ond eto, maent wedi’u tangynrychioli yn y sector trafnidiaeth, gyda dim ond 20 y cant o’r gweithlu hwn yn fenywod. Mae Menywod ym maes Trafnidiaeth yn gorff nid-er-elw sy’n grymuso menywod yn y maes i wneud yn fawr o’u galluoedd. Mae aelodaeth o’r sefydliad yn rhoi’r hawl i rywun fynd i ddigwyddiadau, cymryd rhan yn ein rhaglenni datblygu proffesiynol ac yn rhoi mynediad at y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Menywod ym maes Trafnidiaeth. Mae Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a PTI Cymru yn lansio hwb rhanbarthol ar gyfer Menywod ym maes Trafnidiaeth yng Nghymru. Gwyddom, o ganlyniad i’r gwaith a wnaed o ran Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020 a Gweithgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Trafnidiaeth Cymru, bod awydd i ymaelodi â’r sefydliad o blith corfforaethau ac unigolion.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr