Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Can mlynedd ers 1922

Dyddiad: Dydd Mawrth 15 Tachwedd 2022

Amser: 12.30 - 17.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad amser cinio i nodi can mlynedd ers Etholiad Cyffredinol 1922, a sbardunodd ganrif o weithredu gwleidyddol a newid cymdeithasol. Bydd Deian Hopkin, hanesydd nodedig a Mark Drakeford, y Prif Weinidog yn trafod 15 Tachwedd 1922 a’r polisïau cynyddol a ddilynodd, gan fyfyrio am gyflawniadau fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Wladwriaeth Les, y maent ill dau wedi bod o fudd mawr i bobl Cymru. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad hwn, a bydd yn arddangos deunydd archif prin sy’n deillio o amseroedd arwyddocaol dros y ganrif ddiwethaf.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr