Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Seremoni Cyflwyno Medalau Flynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2022

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Bob blwyddyn mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cyflwyno medalau i ddathlu rhagoriaeth mewn sawl maes. Yng Nghymru cyflawnir gwaith ymchwil o ansawdd da mewn sawl disgyblaeth academaidd wahanol. Mae’r chwe gwobr a gyflwynir gan y gymdeithas yn cydnabod campau rhagorol ar draws meysydd y gwyddorau a’r dyniaethau, ac maent yn cefnogi pobl sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd ym maes ymchwil yng Nghymru. Bydd yr enillwyr yn cael eu medalau yn y digwyddiad dathlu hwn yn y Pierhead.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr