Digwyddiad

ARDDANGOSFA: City Stories: Ffotograffau o Gaerdydd 1969-1977

Dyddiad: Dydd Sadwrn 1 Hydref 2022 i ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Disgrifiad: Cafodd ffotograffau Pete Davis o’r Sblot eu tynnu ar adeg pan oedd y gwaith dur yn cau ac roedd yr ardal yn cael ei hailddatblygu. Wedi’i fagu yn y Sblot, dychwelodd Pete i'r ardal nifer o droeon i gipio’r amgylchedd: "Yn ymwybodol o'r newidiadau mawr iawn [...], byddwn yn cofnodi’r bywyd stryd a dirywiad graddol y dirwedd drefol" Y tu hwnt i’r Sblot, roedd y ddinas ehangach yn newid hefyd. Yn dilyn y cyfnod wedi'r rhyfel, roedd Caerdydd yn datblygu seilwaith newydd a drawsnewidiodd y ffordd roedd pobl yn llywio ac yn defnyddio'r ddinas. Dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae ffotograffau Pete yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd newydd fyfyrio ar gyfnod a lle a newidiodd yn weledol ac yn ddiwylliannol.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr