Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Nick Treharne: Portread o Gymru

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Medi 2022 i ddydd Mercher 9 Tachwedd 2022

Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae'r Senedd, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch o gynnal yr arddangosfa hon o ddelweddau gan y ffotograffydd Nick Treharne fel rhan o brosiect i ddogfennu’r Gymru gyfoes. Ers 2018, gweledigaeth Nick fu adeiladu portffolio cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru. O ddigwyddiadau a thraddodiadau sy'n rhan annatod o fywyd Cymru, i bortreadau o'r cymeriadau ysbrydoledig a diddorol y mae'n cwrdd â nhw ar ei deithiau, mae'r gŵr hwn sydd wrth ei fodd â’r “hanner eiliad” yn trawsnewid pynciau cyffredin bob dydd yn rhywbeth eithriadol.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr