Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Uno Cymru yn erbyn canser drwy ymchwil canser o'r radd flaenaf

Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Medi 2022

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Neuadd, Senedd

Disgrifiad: Mae Ymchwil Canser Cymru (CRW) yn elusen annibynnol Gymreig, sy’n ariannu ymchwil i atal, cael diagnosis a thrin canser yng Nghymru er budd pobl Cymru. Sefydlwyd yr elusen ym 1966 gyda'r syniad o ariannu prosiectau â'r potensial i achub bywydau, ac mae'n ariannu ymchwil o'r radd flaenaf mewn ysbytai a phrifysgolion ledled Cymru, gan fuddsoddi dros £20 miliwn hyd yn hyn mewn ymchwil i ganser sy'n achub bywydau. Cynhelir y digwyddiad hwn yn ystod wythnos Diwrnod Ymchwil Canser y Byd (dydd Sadwrn 24 Medi) ac mae’n caniatáu i CRW archwilio ymchwil canser y dyfodol, a rhannu effaith ymchwil a arianwyd yn ddiweddar. Bydd rhai o ymchwilwyr canser blaenllaw Cymru yn rhannu cipolwg i'w gwaith; trafod yr heriau canser unigryw rydym yn eu hwynebu fel cenedl, a'r effaith gadarnhaol y mae eu hymchwil yn ei chael ar fywydau cleifion canser.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr