Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Tynnu Addysg Rhyw a Chydberthynas o’r Blwch: Cefnogi ysgolion uwchradd i lunio cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthynas sy’n berthnasol ac sy’n ymgysylltu

Dyddiad: Dydd Iau 15 Medi 2022

Amser: 12.00 - 20.00

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Mae Addysg Rhyw a Chydberthynas newydd Cymru yn rhoi hawliau, anghenion a llais dysgwyr wrth galon y cwricwlwm. Ond mae ymchwil yn awgrymu bod bwlch cynyddol rhwng yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddysgu a'r Addysg Rhyw a Chydberthynas y maen nhw'n ei brofi yn yr ysgol. Mae’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc, yn amlach na pheidio, yn cael ei mewn blychau o ystrydebau sy’n symleiddio eu profiad. Mae'r bylchau hyn yn ei gwneud yn anodd darparu Addysg Rhyw a Chydberthynas sy’n berthnasol ac sy’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae Tynnu Addysg Rhyw a Chydberthynas o’r Blwch yn ddigwyddiad sydd wedi’i gynllunio i bontio’r bylchau hyn a dangos sut y gall dulliau creadigol alluogi addysgwyr i gysylltu ac ymgysylltu’n hanfodol â’r modd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu am ystod o faterion Addysg Rhyw a Chydberthynas, o’r ysgol i’r sgrin. Mae'n rhannu canfyddiadau ac adnoddau'r prosiect Engaging Sexual Stories – cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain, Y Brifysgol Agored a Brook, wedi’i gyllido gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Rhennir y diwrnod yn ddwy ran. Yn sesiwn y prynhawn, bydd grwpiau o ddisgyblion ac ymarferwyr (14-18 oed) yn cael eu cyflwyno i ystod o weithgareddau y gall ysgolion eu haddasu er mwyn galluogi pobl ifanc i rannu'n ddiogel ac yn greadigol yr hyn maen nhw eisiau ei ddysgu a sut mae nhw am ei ddysgu yng nghyd-destun Addysg Rhyw a Chydberthynas newydd Cymru. Bydd y sesiwn gyda'r nos yn arddangos eu canfyddiadau ac yn rhannu adnoddau ychwanegol a chyfleoedd dysgu proffesiynol (gyda Brook) drwy gyfres o sgyrsiau byr, perfformiadau, ffilmiau, a thrafodaethau.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr