Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Mehefin 2022

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Bydd Digwyddiad Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru yn edrych ar y cyfraniad y mae amaethyddiaeth Cymru yn ei wneud i'n bywyd economaidd a diwylliannol cenedlaethol, ac yn ystyried pa mor bwysig yw sicrhau bod gennym y polisïau cywir ar waith i gyflawni dros yr amgylchedd a sicrhau economi wledig ffyniannus a chynhyrchiol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr