Digwyddiad

ARDDANGOSFA: 'This is Older' Age Cymru mewn cydweithrediad â Jon Pountney a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dyddiad: Dydd Sadwrn 23 Ebrill 2022 i ddydd Mercher 25 Mai 2022

Lleoliad: Oriel, y Senedd

Disgrifiad: O bync-rociwr i ffermwr defaid mynydd, ac o nofwyr gwyllt i’r rhai sy’n cadw rhandiroedd, mae Age Cymru yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa sy'n ysgogi'r meddwl, gyda’r nod o chwalu stereoteipiau negyddol o bobl hŷn. Fe’i crëwyd mewn cydweithrediad â ffotograffydd o fri Jon Pountney a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr