Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Sgowtiaid Cymru – Digwyddiad i lansio menter y Genhadaeth i Forwyr
Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Mai 2022
Amser: 18.00 - 20.00
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Bydd y digwyddiad hwn yn nodi lansiad cyffrous y rhaglen hon, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Sgowtiaid Cymru a’r Genhadaeth i Forwyr. Mae’r rhaglen yn cynnwys Bathodyn newydd gan Sgowtiaid Cymru ar gyfer ein Hafancod, ein Cybiau a’n Sgowtiaid, yn ogystal â llwybr ar gyfer y Gwobrau Gorau, fel y gall ein Chwilotwyr ennill ein prif wobrau, fel Gwobr Sgowtiaid y Frenhines. Mae’r Rhaglen yn archwilio byd y Morwyr a bywydau Morwyr ledled y byd! Bydd pobl ifanc yn helpu Capteniaid, Cogyddion, Llywyr, Peirianwyr ac eraill i gwblhau eu cenadaethau, gan ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol ar hyd y ffordd! Wrth wneud hynny, gallant ddysgu am ddiwydiant y morwyr, yr amrywiaeth sy’n rhan o fyd y morwyr, a sut i gefnogi morwyr o ran mynd i'r afael â materion byd-eang. Gallant hefyd gwblhau eu hymchwil a'u prosiectau annibynnol eu hunain.
Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr