Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cymru Fyd-eang: Fforwm Fulbright

Dyddiad: Dydd Mercher 6 Ebrill 2022

Amser: 11.00 - 13.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae gan raglen Cymru Fyd-eang a Llywodraeth Cymru gytundeb gyda Chomisiwn Fulbright y DU-UDA i gynnal Fforwm Fulbright ddwywaith dros gyfnod y contract dan sylw. Dyma’r eildro i ni gynnal y digwyddiad hwn, ac mae’n gyfle unigryw i arddangos yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, ynghyd â’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr o America sy’n astudio mewn sefydliadau ledled y DU. Ddydd Mercher, byddwn yn cynnal diwrnod i ddathlu "Diwylliant Cymru", a’r gobaith yw y bydd y myfyrwyr yn ymgysylltu â'r Senedd a thirnodau eraill yng Nghaerdydd, fel Castell Caerdydd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr