Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Darlith y Comisiynydd ar ddatganoli

Dyddiad: Dydd Llun 4 Ebrill 2022

Amser: 16.30 - 18.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Er mwyn nodi mis olaf yr Athro Sally Holland yn ei swydd fel Comisiynydd Plant Cymru, rydym yn cynnal darlith lle bydd Sally yn trafod yr hyn y mae datganoli wedi’i gyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ar ôl treulio saith mlynedd yn ei swydd, gan weithio gyda degau o filoedd o blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw, a chan geisio ffyrdd o sicrhau newid ar lefel leol a chenedlaethol, bydd Sally yn archwilio’r rhwystrau a’r cyfleoedd y mae Cymru yn eu hwynebu, a rôl y comisiynydd plant yn hynny o beth, ar adeg pan fo mwy o angen nag erioed i sicrhau bod plant wrth galon y broses o wneud penderfyniadau.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr