Digwyddiad

DIGWYDDIAD: LeadHerShip Senedd 2022

Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022

Amser: 08.00 - 17.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae LeadHerShip Senedd yn cynnig cyfle i fenywod ifanc gysgodi Aelodau o’r Senedd a’u timau yn ystod digwyddiad undydd. Mae LeadHerShip yn dwyn menywod ifanc o bob rhan o Gymru ynghyd, gan roi’r cyfle iddynt ddysgu mwy am rôl Aelod o’r Senedd, dysgu sut mae’r Senedd yn eu cynrychioli, ennill profiad a chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag mynd i mewn i wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr