Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Ymwybyddiaeth Epilepsi

Dyddiad: Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021

Amser: 10.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Lansio llwybr clinigol newydd ar gyfer cleifion ag epilepsi sy’n 16 oed neu’n hŷn. Cynlluniwyd y llwybr hwn gan grŵp gorchwyl a gorffen Epilepsi, sef grŵp amlddisgyblaethol o glinigwyr a chynrychiolydd elusennol Epilepsy Action sy’n gweithio fel rhan o'r Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol. Nod y llwybr hwn yw sicrhau bod gan bob claf fynediad i wasanaethau arbenigol priodol mewn modd amserol, gan sicrhau diagnosis a thriniaeth brydlon, i leddfu baich adrannau brys a gofal sylfaenol, ac i wella ansawdd a chysondeb gwasanaethau epilepsi ledled Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol. Rhaid archebu tocynnau drwy Eventbrite.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr