Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Etholiad y Senedd – ‘Dy Bleidlais gyntaf’ - addas i bobl Ifanc. (Cyflwyniad yn Gymraeg)
Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021
Amser: 08.50 - 09.10
Lleoliad: Digwyddiad ar-lein
Disgrifiad: Addas i bobl ifanc 14 – 18 mlwydd oed (Blynyddoedd 10-13) Ymunwch â thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd ar gyfer cyflwyniad byw am rôl a phwerau’r Senedd, a sut i bleidleisio. Perffaith ar gyfer gwasanaeth mewn ysgol neu goleg! Yn sgil cyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed yn etholiad y Senedd yn 2021, bydd hon yn sesiwn amhrisiadwy i ennyn diddordeb y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yn y broses etholiadol, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer pleidleisio.
Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/137928382505
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy gofrestru ymlaen llaw drwy’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr