Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansio Cyflwr Iechyd Plant 2020
Dyddiad: Dydd Mercher 4 Mawrth 2020
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Bydd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn lansio adroddiad Cyflwr Iechyd Plant 2020 mewn digwyddiad a noddir gan Dr Dai Lloyd AC. Bydd yr adroddiad yn rhoi cipolwg o iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc, gyda data ar draws ystod o ddangosyddion sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau, heriau iechyd y cyhoedd, dangosyddion lles a salwch plentyndod penodol wedi’u dadansoddi yn ôl gwledydd y DU. Ochr yn ochr â’r data, rydym yn cyhoeddi cyfres o argymhellion sy’n benodol i bob gwlad i wella iechyd plant.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr