Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Gweithredu’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed yng Nghymru
Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020
Amser: 10.00 - 15.00
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Bydd y gweithdy polisi hwn yn canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd yn sgil rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed yng Nghymru. Gan ddefnyddio canfyddiadau 3 phrosiect ymchwil ar wahân, bydd y gweithdy’n ystyried arfer gorau mewn gweinyddiaeth etholiadol ar gyfer cofrestru pobl ifanc, dulliau addysgol ar gyfer gwella lefel gwybodaeth a hyder gwleidyddol ymhlith pobl ifanc, sut y gallai pleidiau gwleidyddol wella eu hymgysylltiad â phobl ifanc a sut y gellir cyflwyno’r bleidlais i rai 16 oed mewn ffordd fydd yn annog pob person ifanc i gymryd rhan yn y broses etholiadol.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr