Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Dychmygiadau Cartograffig: Dehongli’r Atlas Llenyddol
Dyddiad: Dydd Mercher 8 Ionawr 2020 i ddydd Iau 20 Chwefror 2020
Lleoliad: Oriel, Y Senedd & Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Disgrifiad: Arddangosfa o ddeuddeg celfwaith gwreiddiol a gomisiynwyd gan yr Atlas Llenyddol i gyfleu themâu deuddeg nofel Saesneg a leolir yng Nghymru. Mae'r rhain yn rhan o brosiect ehangach Atlas Llenyddol Cymru, sy'n ymchwilio i sut mae llyfrau a mapiau'n ein helpu i ddeall natur ofodol y cyflwr dynol. Yn fwy penodol, mae'n edrych ar sut mae nofelau Saesneg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o natur wir a natur ddychmygol y wlad, ei hanes a'i chymunedau. Dewch i weld yr arddangosfa yn y ddau adeilad cyn rhannu eich gwaith celf a'ch straeon chi fel rhan o weithgaredd gydweithredol yn y Senedd.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr