Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Digwyddiad i lansio adroddiad ‘Cymru yn y Coch 2019’ gan elusen StepChange
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Hydref 2019
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: StepChange yw’r brif elusen yn y DU sy’n rhoi cyngor arbenigol ar ddyledion. Mae’r elusen yn cynnig cyngor diduedd am ddim dros y ffôn neu ar-lein i bobl sy’n ei chael hi’n anodd talu dyledion problemus. Ers iddi gael ei chreu fel Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr ym 1993, mae’r elusen wedi cynorthwyo dros ddwy filiwn o bobl ledled y DU i ddatrys eu problemau o ran dyledion. Mae’r elusen wedi defnyddio ei chronfa ddata gynhwysfawr o gleientiaid i ddadansoddi dyledion problemus ym mhob un o’r 22 o ardaloedd awdurdodau unedol yng Nghymru.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr