Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Be/Longing
Dyddiad: Dydd Gwener 27 Medi 2019 i ddydd Mercher 30 Hydref 2019
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Disgrifiad: Fel rhan o’r dathlu i nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gynnal arddangosfa a gydlynir gan Dr Roiyah Saltus o Brifysgol De Cymru. Mae Be/Longing yn canolbwyntio ar ddinasyddion y Gymanwlad a deithiodd i Gymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd i ymuno â phobl eraill o ynysoedd y Caribî a oedd wedi ymgartrefi yng Nghymru ymhell cyn hynny. Mae'r gosodiadau a'r ffotograffau yn seiliedig ar fywydau'r genhedlaeth hŷn hon a'r nod yw rhoi cipolwg ar rai o arferion bob dydd pobl sydd â'u gwreiddiau yr un mor ddwfn ym mhridd Cymru ag yn eu hynysoedd genedigol.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr