Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Codi ymwybyddiaeth o epilepsi

Dyddiad: Dydd Mawrth 21 Mai 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Digwyddiad blynyddol i godi ymwybyddiaeth o epilepsi. Caiff ei gynnal yn y Senedd ac fe’i noddir gan Mark Isherwood AC. Bob blwyddyn, byddwn yn lobïo Aelodau’r Cynulliad i godi ymwybyddiaeth o’r rhai sydd ag epilepsi ac yn gofyn am wasanaethau hygyrch i sicrhau bod y bobl hyn yn cael y driniaeth a’r cymorth gorau bosibl. Rydym yn estyn gwahoddiad i unigolion sydd ag epilepsi, a’u teuluoedd, i roi cyfle iddynt ddweud eu dweud, i ofyn cwestiynau ac i rannu profiadau. Rydym hefyd yn gofyn i’n Haelodau Cynulliad lleol gymryd rhan. Cofiwch ddod os yw’n bosibl. Byddwn yn casglu gwybodaeth i’w rhoi i Aelodau’r Cynulliad a chomisiynwyr y Byrddau Iechyd Lleol. Os hoffech fod yn bresennol, neu os hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech roi gwybod i ni am broblemau penodol rydych yn awyddus inni eu trafod, cysylltwch drwy’r e-bost - info@epilepsy.wales neu dros y ffôn. 0800 228 9016

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr