Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansio Arddangosfa Etifeddiaeth y Cymoedd
Dyddiad: Dydd Iau 28 Chwefror 2019 i ddydd Iau 21 Mawrth 2019
Lleoliad: Y Oriel, Y Senedd
Disgrifiad: Arddangosfa o waith myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Gwent, Crosskeys. Gofynnwyd i’r myfyrwyr gynhyrchu archif o ffotograffau i gofnodi ardaloedd lleol i gyd-fynd ag ‘Archif y Cymoedd’. Cafodd y myfyrwyr ddewis o amrywiaeth o themâu (tir diffaith diwydiannol, adfywio, pobl, cymdeithas leol, trosolwg o dref, lle gwag) er mwyn cofnodi hanes ardal De Cymru. Roedd y delweddau dilynol yn agoriad llygad ac yn ddeinamig iawn yn weledol. Mae’r ffotograffau’n canolbwyntio ar elfennau gwneud ac elfennau naturiol yn ardaloedd lleol y myfyrwyr, ac yn rhoi sylw i elfennau gwledig, dynol, trefol a diwydiannol, wrth gofnodi cymdeithas a newidiadau.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr