Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Tuag at Ddeddf Uno Newydd

Dyddiad: Dydd Llun 26 Tachwedd 2018

Amser: 10.00 - 12.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae’n bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru noddi trafodaeth gan Peter Hain a Paul Silk ynglŷn â Mesur Deddf Uno Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad. Cyflwynwyd Mesur Deddf Uno’r Grŵp i Dŷ’r Arglwyddi'r mis diwethaf, er mwyn “ail-gydbwyso a sefydlogi’r perthnasau cyfansoddiadol rhwng pedair cenedl y Deyrnas Gyfunol”. Yng nghyd-destun Brexit a’r pwysau mawr sydd yn cael ei roi ar gyfansoddiad y DG, mae Peter Hain, cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru a Gogledd Iwerddon, a Paul Silk, a gadeiriodd y Comisiwn dylanwadol ar Ddatganoli yng Nghymru, yn amlinellu cynnwys y Mesur a’r weledigaeth mae’n ei gyflwyno ar gyfer Teyrnas Gyfunol ddiwygiedig.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr