Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansio Gwasanaeth Eiriolaeth Cymru BDA
Dyddiad: Dydd Iau 29 Tachwedd 2018
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Rydym yn angerddol dros hawliau pobl fyddar ac yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bobl fyddar fynediad llawn i’r ystod o wasanaethau sydd ar gael i’r gymuned ehangach. Mae ein gwasanaeth eiriolaeth ar gyfer y gymuned fyddar ac mae’n wasanaeth annibynnol, cyfrinachol am ddim. Mae ein Heiriolwyr yn rhugl mewn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) a bydd yn gallu diwallu ystod o anghenion cyfathrebu. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA) yn wasanaeth annibynnol sy’n golygu nad ydym wedi cael ein dylanwadu gan unrhyw sefydliad statudol neu anstatudol, felly gallwch ddibynnu arnom ni i’ch cefnogi. Byddwn bob amser yn cynnig cyngor diduedd a bydd eiriolwyr yn cymryd pob cam priodol i osgoi gwrthdaro buddiannau yn eu gwaith â chi.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr