Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Dathlu Trafnidiaeth Gymunedol

Dyddiad: Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Sector sy’n gweithio o’r gwreiddiau yw Trafnidiaeth Gymunedol sy’n cael effaith fawr ar gymuned pobl a meysydd polisi datganoledig yng Nghymru, gyda phobl a gwirfoddolwyr yn gweithio ar hyd y flwyddyn i ddarparu rhaff achub i wasanaethau hanfodol fel gofal, apwyntiadau iechyd a gweithgareddau cymdeithasol. Mae ganddo rôl hanfodol i’w chwarae ar draws meysydd polisi datganoledig fel materion ynghylch hyrwyddo lles, polisi trafnidiaeth wir integredig, wrth ddarparu gofal ataliol a chaniatáu mynediad i waith. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Nod y digwyddiad yw egluro’r rôl y mae Trafnidiaeth Gymunedol yn ei chwarae ac a all chwarae yn gynyddol yn y dyfodol, i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael gwell mynediad i wasanaethau, byw’n annibynnol am hirach, a gwneud cymunedau hapusach a mwy gwydn.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr