Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit a Chymru gan Ganolfan Lywodraethiant Cymru
Dyddiad: Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018
Amser: 08.00 - 09.00
Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Ychydig dros ddwy flynedd ers y refferendwm ar yr UE, bydd academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal un o’u digwyddiadau chwe mis ar y diweddaraf am Brexit a Cymru. Bydd y panel yn cynnwys Dr Jo Hunt, Dr Rachel Minto a’r Athro Roger Awan-Scully, a fydd yn amlinellu goblygiadau cyfansoddiadol, deddfwriaethol a gwleidyddol y broses Brexit. Cynhelir sesiwn holi ac ateb hefyd.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr