Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau
Dyddiad: Dydd Mawrth 5 Mehefin 2018
Amser: 12.30 - 13.30
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, y Pierhead
Disgrifiad: Ymunwch â Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar gyfer digwyddiad i lansio ‘Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau’. Mae’r ddogfen arloesol hon yn dwyn ynghyd ystod o ddata ar garcharu yng Nghymru mewn un gyfrol am y tro cyntaf erioed. Mae’n trafod pwy sydd wedi’i garcharu yng Nghymru ar hyn o bryd a ble, ac yn cynnwys gwybodaeth am ddedfrydu, diogelwch mewn carchardai a sut y mae grwpiau fel menywod a siaradwyr Cymraeg yn rhyngweithio â’r system. Bydd y ffeil ffeithiau yn cynnig sylfaen gadarn o dystiolaeth i wneuthurwyr polisi yng nghyd-destun trafodaethau’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac ymchwiliad sylweddol gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr