Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Chwilio am ofod – lle trefi ym mholisi cyhoeddus Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Ebrill 2018

Amser: 11.30 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Fel cartref i nifer sylweddol o ddinasyddion, busnesau a darparwyr gwasanaeth, mae trefi yn leoedd arbennig o bwysig yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil a wnaed gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK wedi canfod er bod polisïau wedi’u dylunio’n dda i ddatblygu dinasoedd a chefnwlad wledig, ac yn aml grwpiau pwerus sy’n gweithio ar eu rhan, mae trefi yn faes a esgeulusir mewn polisi cyhoeddus. Bydd y digwyddiad hwn gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK, sydd wedi’i noddi gan Vikki Howells AC, yn archwilio’r cyfleoedd presennol i drefi yng Nghymru, a ddarperir yn nodedig gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a’r heriau, megis newid i gyflogaeth a phoblogaeth sy’n heneiddio, a fydd yn gofyn am symud i ffwrdd o ffyrdd traddodiadol o weithio i’w goresgyn.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr