Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Uwchgynhadledd Enghreifftiol y Gymanwlad 2018
Dyddiad: Dydd Llun 26 Mawrth 2018
Amser: 10.00 - 16.00
Lleoliad: Siambr Hywel, Ty Hywel
Disgrifiad: Uwchgynhadledd Enghreifftiol y Gymanwlad 2018 — Tuag at Ddyfodol Cyffredin Bydd 10 ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn Uwchgynhadledd Enghreifftiol y Gymanwlad, a fydd yn cyd-fynd â Chyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad (CHOGM), a fydd yn cael ei gynnal rhwng 16 a 20 Ebrill yn Llundain. Bydd y digwyddiad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd Uwchgynhadledd Enghreifftiol y Gymanwlad, sy'n cael ei noddi gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod yr heriau cyffredin y mae gwledydd ledled y byd yn eu hwynebu, a sut y gallwn gydweithio i hyrwyddo ffyniant, democratiaeth a heddwch. Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn rhoi cyflwyniad i'r bobl ifanc i waith y Gymanwlad a'i rhannau cyfansoddol.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr