Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Ymgynghori Siarter Awdurdod Cyllid Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 30 Ionawr 2018

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Oriel y Senedd

Disgrifiad: Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gofyn am eich barn ar ei Siarter ddrafft. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu’r trethi cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd ym mis Ebrill eleni. Ni fydd Treth Dir y Dreth Stamp na’r Dreth Dirlenwi bellach yn gymwys yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Cânt eu disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, yn ôl eu trefn. Mae siarter Awdurdod Cyllid Cymru yn gam cyntaf pwysig ym mherthynas y sefydliad newydd hwn â phobl Cymru, gan nodi sut y bydd yr Awdurdod yn gweithio gyda chwsmeriaid. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle ichi gyfarfod â staff Awdurdod Cyllid Cymru ac aelodau’r Bwrdd, mynegi eich barn a helpu i lunio ei werthoedd i gyflwyno system dreth deg i Gymru. Mae’r Siarter ddrafft wedi’i chyhoeddi yn adran ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru ynghyd â ffurflen ymateb. Fel arall, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru yn uniongyrchol ar haveyoursay@wra.gov.wales. Bydd y siarter yn newid o ganlyniad uniongyrchol i’ch adborth, felly cymerwch y cyfle hwn i ddweud eich barn wrthym.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr