Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn lansio Ysgol Dechnolegau Caerdydd: 4D yn y Cei Canolog
Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Chwefror 2018
Amser: 17.30 - 19.45
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn fenter gydweithredol newydd rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a diwydiant. Y bwriad yw cefnogi'r sectorau a ganlyn: y Cyfryngau Digidol a Thechnoleg Glyfar, Gwyddoniaeth Ddata a Gwybodeg, a Dylunio a Thechnoleg. Bydd y fenter 4D yn cael ei lansio yn y Cei Canolog (Digidol, Data, Dylunio, Dyfodol), a’r bwriad yw y bydd yr Ysgol yn rhan o gampws newydd y Brifysgol ar safle bragdy Brains, sydd wedi’i adfer, o 2020 ymlaen.
Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad y tu allan i oriau agor arferol, felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr