Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Rhyfel Byd Cyntaf – ‘Cofio Dynion Dur’
Dyddiad: Dydd Llun 15 Ionawr 2018 i ddydd Gwener 26 Ionawr 2018
Lleoliad: Oriel y Senedd
Disgrifiad: Mae Rhyfel Byd Cyntaf – ‘Cofio Dynion Dur’ yn dangos gwaith prosiect cymunedol dwy flynedd o hyd gan Gymdeithas Tai Linc Cymru, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys ymchwilio i fywydau’r dynion a restrir ar Gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngweithfeydd Dur Orb ac i rôl y gweithfeydd yn ystod y cyfnod, gan ddilyn y dynion a ddaeth yn ôl o faes y gad. Bydd yr arddangosfa yn rhyngweithiol ac yn addas ar gyfer pob oed a gallu.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr