Digwyddiad
DIGWYDDIAD: O Un i’r Llall
Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Rhagfyr 2017
Amser: 11.00 - 12.30
Lleoliad: Oriel y Senedd
Disgrifiad: James Richards: Symudais i Aberystwyth yn 2000. Efallai imi gael fy ngalw, pwy a ŵyr? Gallech chi ddweud mai fi oedd “yr olaf i ddod nôl” yn fy nheulu i. Ar ôl pum mlynedd yn y Brifysgol ac yn treulio fy nyddiau rhwng Telford a Birmingham, doeddwn i ddim yn hapus. Roedd Cymru yn noddfa i mi ac yn ddihangfa o unigrwydd bywyd y ddinas. Roeddwn i’n dechrau ymddwyn yn fwy fel artist ac yn breuddwydio am symud i Gymru. Peth anodd yw teimlo eich bod yn perthyn i rywle arall. Rhyw fath o drem yn ôl yw’r gwaith dan sylw; detholiad o beintiadau sy’n bwysig i fi – y rhai rwy’n eu cadw yn y tŷ. Maen nhw’n gofnod hanesyddol o’m bywyd yng Nghymru ac yn cwmpasu’r 17 mlynedd diwethaf. Gobeithio y gallwch weld beth sydd wedi’i gyflawni yn y cyfnod hwnnw drwy fy ngwaith celf.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr